Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth Ddiwydiannol Amlwch

Cefndir

Mae stori’r diwydiant copr yn Amlwch yn rhyfeddol. Ar ôl darganfod mwyn copr ar y mynydd yn 1768 daeth tref bysgota fechan Amlwch yn lle pwysicaf ei ddylanwad ar farchnad gopr y byd am gyfnod. O ganlyniad fe ddatblygiodd diwydiant llongau llwyddiannus yn yr harbwr, a thrawsnewidiwyd Amlwch i fod yn un o drefi mwyaf  ffyniannus Cymru. Erbyn 1800 cofnodwyd 8 siop gigydd, 13 siop deiliewr,  6 haearnwerthwr a  60 o dai tafarn yn y dref!

Y stori hon yw craidd menter  ‘Y Deyrnas Gopr’ – atyniad sydd yn tyfu yn fwyfwy poblogaidd yn flynyddol.

Y Deyrnas Gopr: Atyniad Pwysig iawn i Ynys Môn

Mae Y Deyrnas Gopr yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth Ddiwydiannol Amlwch, a gafodd ei sefydlu yn 1997. Yn ystod 19 o flynyddoedd mae’r Ymddiriedolaeth wedi goruchwilio nifer o ddatblygiadau pwysig sydd wedi:

  • diogelu nifer o adeiladau hanesyddol ac wedi datblygu llwybr treftadaeth ar Fynydd Parys,
  • creu canolfan ddehongli Y Deyrnas Gopr ym Mhorth Amlwch, yn cynnwys siop (yn yr hen ‘fin copr’), ag wedi
  • adnewyddu y Lloft Hwyliau gerllaw fel canolfan arddangos a chaffi.

Mae’r Ganolfan a’r Llofft Hwyliau bellach yn denu 8,000 o ymwelwyr y flwyddyn.